P-06-1561 Cau'r bwlch rhwng y rhywiau ym mhêl-droed menywod Cymru: ariannu cynllun cydraddoldeb cenedlaethol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Osamagbe Izevbigie, ar ôl casglu 335 lofnodion.

Geiriad y ddeiseb:

Er gwaethaf cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf, mae pêl-droed menywod Cymru yn dal i fod heb lwybrau datblygu, cyllid a gwelededd cyfartal. Mae merched yn wynebu rhwystrau rhag symud ymlaen y tu hwnt i'r lefel llawr gwlad, yn enwedig ar ôl y system o dan 19 oed. Mae angen cynllun cenedlaethol arnom sy'n sicrhau cydraddoldeb ar draws y lefelau ieuenctid ac elît erbyn 2030. Ni all Cymru fforddio colli mwy o dalent oherwydd anghydraddoldeb.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r cyllid i alluogi Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru i gyflawni cynllun pum pwynt:

• Creu timau cenedlaethol menywod dan 21 a dan 23

• Ehangu mynediad trwy adnabod talent ac allgymorth yn rhanbarthol

• Sicrhau hyrwyddo cyfartal yn y cyfryngau

• Cyflwyno cynllun cymorth i chwaraewyr cenedlaethol

• Cyhoeddi cynllun cydraddoldeb cenedlaethol mesuradwy dros 5 mlynedd

Mae hyn yn ymwneud â chyfleoedd, tegwch, a Chymru yn arwain y ffordd ym maes chwaraeon menywod.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd: